Ymunwch â Chymuned Gofalwyr Caerdydd a'r Fro
Croeso,
Credwn mai Caerdydd a Bro Morgannwg yw'r lle gorau i fyw a gweithio.
Gallwch gael cinio ar draeth yn y Barri, cael swper yn edrych dros y Pier ym Mhenarth, dal y trên i Gaerdydd i fwynhau siopa yn hwyr yn y nos a sioe, yna treulio'r penwythnos yn crwydro cefn gwlad neu’n gwylio gêm ac yna cael diod gyda ffrindiau o flaen y tân.
Mae ein timau ni yn y gymuned yn groesawgar ac rydym i gyd yn cefnogi ein gilydd i wneud y gorau o bob eiliad yn y gwaith. Rydym am fuddsoddi ynoch chi i'ch helpu i gyrraedd eich potensial.
Ond gorau oll, gallwn weld y gwahaniaeth rydyn ni'n ei wneud i bobl yn ein cymuned. Mae'r wên pan fyddwn yn cyrraedd y drws i helpu rhywun i gyflawni'r nodau y maen nhw wedi'u gosod i’w hunain yn wobr ynddo'i hun.
Byddem wrth ein boddau pe baech yn ymuno â ni i gefnogi pobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i osgoi arosiadau diangen yn yr ysbyty trwy ddarparu gofal a chefnogaeth mewn cartrefi ac yn y gymuned. Pwy bynnag ydych chi mae gennym ni rôl i chi.
Os oes gennych gymhwyster iechyd neu ofal, mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd gwerth chweil isod.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau'r cyfle hwn i gwrdd â'r tîm, mae croeso i chi ddefnyddio'r tab 'Gofyn cwestiwn' i ofyn unrhyw beth yr hoffech chi ei wybod a rhannu eich meddyliau am ein cymuned. Cofiwch gofrestru i dderbyn diweddariadau am gyfleoedd newydd.
Byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu i helpu i lywio ein cynlluniau yn y dyfodol ar gyfer rolau a recriwtio cymunedol. Ni fydd unrhyw sylwadau y byddwch yn eu gwneud yn cael eu hystyried yn ystod y broses recriwtio oni bai eich bod am eu rhannu yn eich cais neu gyfweliad.
Os hoffech chi ennill cymhwyster cydnabyddedig mewn gofalu, edrychwch ar Academi Gofal Caerdydd neu Llwybr Carlam i Ofal Bro Morgannwg. Dewch yn ôl i edrych ar rolau sydd gennym ar gael ar ôl i chi gymhwyso.
Diolch am eich cyfraniad!
Helpwch ni i estyn allan at fwy o bobl yn y gymuned
Rhannu hwn gyda theulu a ffrindiau