Gweithiwr Cymorth Ailalluogi - Cyngor Bro Morgannwg

Dyddiad cau: 31 Mawrth 2024

LLEOLIAD: Sawl lleoliad

MATH O GONTRACT: Parhaol

Ynglŷn â Thîm Adnoddau Cymunedol y Fro

Mae Tîm Adnoddau Cymunedol y Fro yn wasanaeth integredig sy'n cael ei redeg gan Gyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Rydym yn darparu cefnogaeth a/neu therapi tymor byr i bobl sy'n byw yn eu cartref eu hunain pan gânt eu rhyddhau o'r ysbyty am y tro cyntaf neu i atal derbyniadau i'r ysbyty. Ein nod yw gwneud y gorau o annibyniaeth person.

Ynglŷn â'r rôl

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n tîm amlddisgyblaethol integredig. Fel un o'n Gweithwyr Cymorth Ailalluogi byddwch yn cefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain gyda thasgau byw dyddiol fel gofal personol a pharatoi prydau bwyd.

Rhannu Gweithiwr Cymorth Ailalluogi - Cyngor Bro Morgannwg ar Facebook Rhannu Gweithiwr Cymorth Ailalluogi - Cyngor Bro Morgannwg Ar Twitter Rhannu Gweithiwr Cymorth Ailalluogi - Cyngor Bro Morgannwg Ar LinkedIn E-bost Gweithiwr Cymorth Ailalluogi - Cyngor Bro Morgannwg dolen
<span class="translation_missing" title="translation missing: cy.projects.blog_posts.show.load_comment_text">Load Comment Text</span>