Dirprwy Arweinydd Tîm Nyrsio Cymunedol - Safe@home

Contract: Parhaol

Llawn amser: 37.5 awr yr wythnos (Bydd y rôl yn cynnwys gweithio dros gyfnod o 7 diwrnod gyda rhai oriau anghymdeithasol)

Lleoliad: Yr Eglwys Newydd, Caerdydd

Yn cau: 06/12/2023 23:59

Disgrifiad

Mae Safe@home yn wasanaeth ymateb brys integredig amlasiantaeth ac aml-broffesiynol newydd sy’n mynd i’r afael â’r bwlch presennol yn ein hystod o wasanaethau gofal canolraddol. Ei nod yw darparu dewis amgen diogel, sydd ar gael ar unwaith, yn lle cael eich cludo mewn ambiwlans, mynd i’r uned achosion brys a chael eich derbyn i ysbyty, pan fo’n ddiogel ac yn briodol gwneud hynny.

Mae’r gwasanaeth newydd yn cael ei ddatblygu ar gyfer Caerdydd a’r Fro, gan ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd o wasanaethau sefydledig ledled Cymru a Lloegr. Ein nod yw cyflwyno a phrofi’r model fel dull amlasiantaeth, aml-broffesiynol newydd i ddarparu ymyrraeth gynnar a chymorth clinigol uwch yn y gymuned.

Bydd y rôl nyrsio cymunedol yn rhan o’r tîm ymateb craidd, gan weithio gydag ac ochr yn ochr ag amrywiaeth o glinigwyr yn y gymuned.

Bydd gofyn i chi deithio ledled y rhanbarth yn ddyddiol, gan ddefnyddio eich sgiliau clinigol i gynnal asesiadau cynhwysfawr a darparu gofal clinigol acíwt ac ymyriadau i gleifion. Wrth gyflawni eich rôl, byddwch yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o sicrhau bod cynlluniau gofal yn cefnogi ac yn galluogi cleifion i aros yn ddiogel yn eu man preswylio arferol.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais

Rhannu Dirprwy Arweinydd Tîm Nyrsio Cymunedol - Safe@home ar Facebook Rhannu Dirprwy Arweinydd Tîm Nyrsio Cymunedol - Safe@home Ar Twitter Rhannu Dirprwy Arweinydd Tîm Nyrsio Cymunedol - Safe@home Ar LinkedIn E-bost Dirprwy Arweinydd Tîm Nyrsio Cymunedol - Safe@home dolen
<span class="translation_missing" title="translation missing: cy.projects.blog_posts.show.load_comment_text">Load Comment Text</span>