Adnewyddu Strategaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Y daith hyd yn hyn…
Lansiwyd Llunio Ein Llesiant i’r Dyfodol, ein strategaeth ddeng mlynedd bresennol, yn ôl yn 2015, yn dilyn ei datblygu gyda chydweithwyr, rhanddeiliaid a’r cyhoedd.
Mae’r strategaeth yn rhoi cyd-destun i bopeth a wnawn a’i nod sylfaenol yw ceisio mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd amlwg sy’n bodoli ar draws y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, a darparu’r gwasanaethau gofal iechyd gorau oll. Rydym yn gweithio gydag ystod ehangach o bartneriaid sy'n holl bwysig i wireddu ein huchelgeisiau. Mae ein strategaeth yn hanfodol i’n cefnogi i gyflawni ein cenhadaeth 'gofalu am bobl a chadw pobl yn iach'.
Rydym yn prysur nesáu at ddiwedd ein strategaeth Llunio Ein Llesiant i’r Dyfodol. Yn ogystal, mae’r Bwrdd Iechyd dan straen sylweddol, wedi’i ddwysáu gan effeithiau’r pandemig. Mae nawr yn gyfnod tyngedfennol wrth i ni geisio mynd i’r afael â heriau uniongyrchol a heriau sydd ar ddod.
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, rydym yn darparu sbectrwm llawn o wasanaethau i’n poblogaeth leol, yn ogystal â bod yn brif ddarparwr gwasanaethau arbenigol yn ein rhanbarth. Rydym yn wynebu nifer o heriau o ran sut rydym yn darparu gwasanaethau iechyd, yn awr ac ar gyfer y dyfodol.
Rydym wedi cyflawni llawer o’r camau gweithredu a nodwyd gennym yn Llunio Ein Llesiant i’r Dyfodol, ond mae angen inni bwyso a mesur yr hyn sydd wedi newid, adolygu ein blaenoriaethau a gosod y camau gweithredu allweddol y mae angen inni eu cymryd dros y 10 mlynedd nesaf i gyflawni’r gwelliant a’r trawsnewid gofynnol.
Ym mis Ionawr a mis Chwefror 2023, rydym yn ymgysylltu â chydweithwyr ar draws y sefydliad, yn ogystal â rhai o’n rhanddeiliaid allweddol, i ddechrau datblygu ein strategaeth ar ei newydd wedd. Byddwn yn cynnal llawer o weithdai a digwyddiadau i gasglu cymaint o adborth â phosibl.
Rydym yn annog cydweithwyr i gymryd rhan yn y sesiynau hyn ac i roi adborth fel y gallwn sicrhau bod ein tîm i gyd, ar draws pob disgyblaeth, yn chwarae rhan yn ein blaenoriaethau a’n huchelgeisiau ar gyfer y deng mlynedd nesaf.
Cyflwynwch unrhyw gwestiynau sydd gennych
Diolch am gymryd yr amser i ofyn cwestiynau. Bydd eich cwestiynau’n cael eu hateb o fewn pum diwrnod gwaith.
Diolch am eich cyfraniad!
Helpwch ni i estyn allan at fwy o bobl yn y gymuned
Rhannu hwn gyda theulu a ffrindiau