Polisi preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd: Safle Cyfranogiad RPB

Beth mae’r polisi hwn yn ei gwmpasu

Rydym ni, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn cymryd ein rhwymedigaethau preifatrwydd o ddifrif ac rydym wedi creu’r polisi preifatrwydd hwn i egluro sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol a gesglir ar y wefan hon.

 

Gwybodaeth bersonol yw gwybodaeth sydd gennym ni sy’n gallu cael ei hadnabod fel gwybodaeth amdanoch chi.

 

 

Mae casglu, defnyddio a datgelu eich gwybodaeth bersonol yn cael ei reoleiddio gan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol (‘GDPR’) yr Undeb Ewropeaidd a Deddf Diogelu Data 2018.

Mae’r platfform meddalwedd sy’n rhedeg y wefan hon a gweithrediadau technoleg cysylltiedig yn cael eu darparu gan Bang the Table Pty Ltd. Cliciwch ar y ddolen hon i weld y Polisi Preifatrwydd sy’n llywodraethu eu gwasanaeth.

 

Pa wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu

Gwybodaeth Proffil

Rydym yn casglu gwybodaeth gennych pan fyddwch yn cofrestru i ddefnyddio’r wefan hon. Mae hyn yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost a gwybodaeth ddemograffig ychwanegol a ddarperir gennych chi ar y ffurflen gofrestru.

 

Noder y gallwch bori unrhyw adrannau o’r wefan hon sydd ar gael i’r cyhoedd yn gwbl ddienw heb gofrestru.

 

 

Sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth rydym yn ei chasglu

Rydym yn casglu’r wybodaeth hon er mwyn:

  • ei dadansoddi a’i dehongli i helpu i gyflawni ein hamcanion a’n rhwymedigaethau;
  • cyfleu gwybodaeth i chi am gyfleoedd ymgysylltu, digwyddiadau a mentrau eraill; ac
  • ymateb i ymholiadau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

 

Data demograffig

Mae darparu data demograffig yn ein galluogi i wneud y canlynol:

 

  • Monitro ein hymgysylltiad a sicrhau ein bod yn clywed gan gynulleidfa amrywiol
  • Llywio ein cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu fel y gallwn estyn allan at unrhyw gynulleidfaoedd sy’n cael eu tangynrychioli
  • Ein galluogi i ddadansoddi ymatebion fel y gallwn ddeall a oes gan bobl o ddemograffeg benodol unrhyw anghenion penodol y mae angen i ni eu hystyried wrth gynllunio cymorth a gwneud penderfyniadau
  • Caniatáu i ni rannu’r wybodaeth fwyaf perthnasol gyda’r bobl sy’n cael eu heffeithio fwyaf

 

Mae darparu’r data hwn yn gwbl ddewisol ac yn parhau i fod dan eich rheolaeth. Gallwch ei ddiwygio unrhyw bryd yn adran eich proffil.

 

Gwybodaeth Ymgysylltu

Y cynnwys rydych chi’n ei greu wrth ryngweithio â’r wefan hon. Gall y rhain gynnwys ymatebion i arolygon, sylwadau ar fforymau trafod, neu unrhyw un o’r cyfleoedd ymgysylltu eraill sydd ar gael yma. Mae hyn er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio i lywio’r broses o wneud penderfyniadau am y prosiect/gwaith rydych wedi rhoi eich sylwadau yn ei gylch.

 

Gwybodaeth am Ddefnydd

Rydym yn casglu gwybodaeth am eich defnydd o’r wefan, megis tudalennau yr ymwelwyd â nhw, dogfennau a lawrlwythwyd, ac ati.

 

Dolenni allanol

Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill. Darperir y dolenni hynny er hwylustod ac efallai na fyddant yn parhau i gael eu cynnal a’u cadw’n gyfredol. Nid ydym yn gyfrifol am arferion preifatrwydd gwefannau cysylltiedig ac rydym yn awgrymu eich bod yn adolygu polisïau preifatrwydd y gwefannau hynny cyn eu defnyddio.

 

Diogelwch

Er nad oes unrhyw wasanaeth ar-lein yn gwbl ddiogel, rydym yn gweithio’n galed iawn i sicrhau nad yw’r wybodaeth yn cael ei chyrchu, ei defnyddio, ei newid neu ei dinistrio heb awdurdod, ac rydym yn cymryd pob mesur rhesymol i wneud hynny.

 

Gofyn am fynediad neu gywiro eich gwybodaeth bersonol

Yn amodol ar gyfreithiau a rheoliadau lleol perthnasol, efallai y bydd gennych rai neu bob un o’r hawliau canlynol mewn perthynas â’ch data personol:

  • mynediad at eich data personol ac i gywiro unrhyw wallau yn y data personol hwnnw;
  • gwneud cais i ddileu eich data personol sy’n cael ei gadw gennym ni;
  • gofyn am eich data personol mewn fformat symudol, y mae modd i beiriant ei ddarllen; a
  • thynnu eich caniatâd i brosesu eich data personol yn ôl.

 

Os hoffech gysylltu â ni gyda chais yn ymwneud â’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a nodir isod gan gynnwys eich enw a’ch manylion cyswllt. Mae’n bosibl y bydd angen i ni wirio pwy ydych chi cyn rhoi eich gwybodaeth bersonol i chi.

Mewn rhai achosion, efallai na fyddwn yn gallu rhoi mynediad i chi i’ch holl wybodaeth bersonol a phan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn esbonio pam. Byddwn yn ymdrin â phob cais am fynediad at wybodaeth bersonol o fewn amserlen resymol.