Adnewyddu Strategaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Rhannu Adnewyddu Strategaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar Facebook Rhannu Adnewyddu Strategaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Ar Twitter Rhannu Adnewyddu Strategaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Ar LinkedIn E-bost Adnewyddu Strategaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro dolen

Y daith hyd yn hyn

Lansiwyd Llunio Ein Llesiant i’r Dyfodol, ein strategaeth ddeng mlynedd bresennol, yn ôl yn 2015, yn dilyn ei datblygu gyda chydweithwyr, rhanddeiliaid a’r cyhoedd.

Mae’r strategaeth yn rhoi cyd-destun i bopeth a wnawn a’i nod sylfaenol yw ceisio mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd amlwg sy’n bodoli ar draws y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, a darparu’r gwasanaethau gofal iechyd gorau oll. Rydym yn gweithio gydag ystod ehangach o bartneriaid sy'n holl bwysig i wireddu ein huchelgeisiau. Mae ein strategaeth yn hanfodol i’n cefnogi i gyflawni ein cenhadaeth 'gofalu am bobl a chadw pobl yn iach'.

Rydym yn prysur nesáu at ddiwedd ein strategaeth Llunio Ein Llesiant i’r Dyfodol. Yn ogystal, mae’r Bwrdd Iechyd dan straen sylweddol, wedi’i ddwysáu gan effeithiau’r pandemig. Mae nawr yn gyfnod tyngedfennol wrth i ni geisio mynd i’r afael â heriau uniongyrchol a heriau sydd ar ddod.

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, rydym yn darparu sbectrwm llawn o wasanaethau i’n poblogaeth leol, yn ogystal â bod yn brif ddarparwr gwasanaethau arbenigol yn ein rhanbarth. Rydym yn wynebu nifer o heriau o ran sut rydym yn darparu gwasanaethau iechyd, yn awr ac ar gyfer y dyfodol.

Rydym wedi cyflawni llawer o’r camau gweithredu a nodwyd gennym yn Llunio Ein Llesiant i’r Dyfodol, ond mae angen inni bwyso a mesur yr hyn sydd wedi newid, adolygu ein blaenoriaethau a gosod y camau gweithredu allweddol y mae angen inni eu cymryd dros y 10 mlynedd nesaf i gyflawni’r gwelliant a’r trawsnewid gofynnol.

Ym mis Ionawr a mis Chwefror 2023, rydym yn ymgysylltu â chydweithwyr ar draws y sefydliad, yn ogystal â rhai o’n rhanddeiliaid allweddol, i ddechrau datblygu ein strategaeth ar ei newydd wedd. Byddwn yn cynnal llawer o weithdai a digwyddiadau i gasglu cymaint o adborth â phosibl.

Rydym yn annog cydweithwyr i gymryd rhan yn y sesiynau hyn ac i roi adborth fel y gallwn sicrhau bod ein tîm i gyd, ar draws pob disgyblaeth, yn chwarae rhan yn ein blaenoriaethau a’n huchelgeisiau ar gyfer y deng mlynedd nesaf.

  • Chwaraewch eich rhan

    Gwahoddir cydweithwyr y Bwrdd Iechyd a rhanddeiliaid allweddol i gymryd rhan mewn sesiynau ymgysylltu a fydd yn cael eu hyrwyddo’n fewnol ar SharePoint. Cwblhewch yr arolwg yn ystod neu ar ôl y sesiynau, bydd hyn yn ein galluogi i sicrhau bod eich adborth yn llywio ein strategaeth ar ei newydd wedd. Efallai y byddwch hefyd yn dewis cwblhau'r arolwg heb fynychu sesiwn, fodd bynnag, efallai y byddwch yn colli’r cyfle i gael gwybodaeth gefndir ychwanegol a chyd-destun a allai fod yn fuddiol.  

    Dysgwch fwy am y gweithdai adnewyddu strategaeth staff sydd ar ddod ar SharePoint.

    Os hoffech roi adborth ond yr hoffech wneud hynny ar lafar neu drwy ddulliau eraill, e- bostiwch newyddion@wales.nhs.uk i drefnu sgwrs.

    Llenwch yr Arolwg
    Rhannu Arolwg: Adnewyddu Strategaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar Facebook Rhannu Arolwg: Adnewyddu Strategaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Ar Twitter Rhannu Arolwg: Adnewyddu Strategaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Ar LinkedIn E-bost Arolwg: Adnewyddu Strategaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro dolen
  • Lansiwyd Llunio Ein Llesiant i’r Dyfodol, ein strategaeth ddeng mlynedd bresennol, yn ôl yn 2015. Rydym yn ymgysylltu â bawb i ddechrau datblygu ein strategaeth ar ei newydd wedd.

    Llenwch yr Arolwg
    Rhannu Adnewyddu Ein Strategaeth Gyda’n Gilydd - Arolwg Cyhoedd ar Facebook Rhannu Adnewyddu Ein Strategaeth Gyda’n Gilydd - Arolwg Cyhoedd Ar Twitter Rhannu Adnewyddu Ein Strategaeth Gyda’n Gilydd - Arolwg Cyhoedd Ar LinkedIn E-bost Adnewyddu Ein Strategaeth Gyda’n Gilydd - Arolwg Cyhoedd dolen
Diweddaru: 10 Mar 2023, 10:56 PM