Presgripsiynu Cymdeithasol
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro eisiau buddsoddi mewn cymorth a fydd yn eich helpu i wneud y pethau rydych chi'n mwynhau eu gwneud yn eich cymuned leol. Gelwir hyn yn bresgripsiynu cymdeithasol a gallai gynnwys gwneud ffrindiau newydd, gwirfoddoli, gwneud ymarfer corff, mynd allan i fyd natur neu archwilio hobïau/diddordebau newydd. Ein nod yw eich cysylltu ag ystod o weithgareddau yn y gymuned sy'n helpu i gyfrannu at les cadarnhaol.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os ydych o dan 18 oed ac â diddordeb mewn cymryd rhan.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddywedwch wrthym i'n helpu i wella ein gwasanaethau a llunio'r hyn a wnawn nesaf
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda gwahanol wasanaethau o amgylch Caerdydd a'r Fro i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael mynediad at ystod o weithgareddau a chymorth.
Mae rhai o'n prosiectau cyffrous yn cynnwys:
Datblygu'r cyfryngau cymdeithasol
Creu cyfnodolyn lles i bobl ifanc ei ddefnyddio ochr yn ochr â'u gwaith gyda'n cysylltwyr cymunedol.
Defnyddiwch y tabiau isod i rannu eich barn a dweud mwy wrthym am yr hyn rydych chi'n mwynhau ei wneud yn eich cymuned leol!
Fe wnaethom ddatblygu cyfnodolyn lles i bobl ifanc ei ddefnyddio ochr yn ochr â chymorth gan eu cysylltwyr cymunedol.
Ym mis Tachwedd, gwnaethom ofyn i chi ddweud wrthym beth yr oeddech am ei weld mewn cyfnodolyn lles.
Cliciwch ar y llun uchod i weld drafft o'n cyfnodolyn lles a defnyddiwch y tab 'Social Media & Wellbeing Journal' isod i rannu eich adborth!
Beth yw rhai o'r pethau rydych chi eisoes yn eu gwneud yn eich cymuned?
Rhowch wybod i ni: pa grwpiau neu weithgareddau sydd eisoes yn eich cymuned rydych chi'n eu mwynhau? Ble maen nhw wedi'u lleoli?
Marciwch nhw ar y map isod!
Beth yw’r peth gorau yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg?